top of page
Search
  • pethmeddaldi'rmeddwl

fifty shades o anxiety.

Updated: Jan 19, 2022

**cynnwys ’chydig o iaith gref**


Cyn i chi ddechra’ meddwl, na dydi y blog yma ddim yn cynnwys sequal i straeon Mr Grey. Pan dwi’n deud fifty shades o anxiety dwi’n ei feddwl o bach fwy llythrennol.


Dwi’n cofio pan oni’n form one, mashwr fod rhai ‘ona chi hefyd yn cofio, gorfod sgetcho shades o ddu a gwyn yn mynd o tywyll i gola’. A pan oni’n trio meddwl am be i ‘sgwennu am nesa’ neshi feddwl, ma’ anxiety fel shades gwahanol. Tydi anxiety ddim yn un shade, be dwi’n feddwl ydi, mae o’n wahanol i bawb gan fod profiad pawb gyda anxiety yn bersonol iddyn nhw. Er hyn dwi’n meddwl fod yna dri shade basic a all pawb uniaethu efo sy’n egluro anxiety mewn ffordd. Mae’n anodd egluro a mynegi be ydi anxiety yn dechnegol, felly wrth egluro drw’ shades gwahanol, efallai allai roi goleuni ar be all anxiety fod i rhai ohonoch sydd yn chwilio am ystyr o rhywfath.


DU– dyma y shade tywylla’ ymhob ystyr. I fi, mae du yn cynrychioli rock bottom, yr anxiety gwaethaf ‘da chi erioed wedi ei gael, y cyfnod tywyll ble does dim byd yn helpu a mae popeth yn edrych mor shit. Mewn ffordd ‘da chi’ n “saff” yn eich anxiety. Be dwi’n feddwl ydi, ‘da chi’n gwbod fod rhywbeth ddim yn iawn ond mae un peth pendant yn eich bywyd, sef y ffordd 'da chi'n teimlo. Yn bersonol, pan oni yn un o'r cyfnoda' tywylla’ o fy anxiety yn 2016, oni’n teimlo’n “saff” gan fod genai reswm pam do’ ni ddim isho ‘neud rhywbeth, fel codi o ngwely. Er hyn gall y teimlad yma o fod yn “saff” fod mor ddinistriol, oherwydd fe wnaeth o fy nal i nol gymaint a sbwylio fy misoedd gyntaf yn y Brifysgol. Mae’n anodd dod allan o’r shade yma, ond gyda help teulu a ffrindia’ a thechnegau gwahanol fel sydd yn y blog cynt, mae’n hollol bosib.


LLWYD– y shade yma ydi’r decider. Gallai fynd either way. Mae o fel cwmwl uwch eich pen. Ella yn y bora ‘da chi’n teimlo’n oke, ond erbyn amser cinio, mae rhywbeth lleiaf fel glaw neu makeup bler yn dechra’ codi’r anxiety ac wedyn mae’r cwmwl uwch eich pen yn bygwth storm. OND ar yr ochr arall, ella gallwch fod yn iawn a jys’ roi cot law ymlaen a thynnu y makeup a trio eto, a mae’r cwmwl yn symud o fod uwch eich pen.


GWYN– bodlon. Hwn ydi shade recovery. Er eich bod mewn ffordd wedi gwella ac yn dal i wella, ‘da chi’n vulnerable fel mae y shade gwyn. Gall gwyn, lliw glân cael ei faeddu, yn union a all eich meddwl clir a phositif. Er eich bod ella lot hapusach, gallwch ddal cael diwrnoda’ crap ble mae’r anxiety yn eich trechu. Ond yn groes i hynny gallwch liwio gwyn gyda lliwia’ hapus fel coch, melyn, piws ayyb. Hyn ydi fy nod i bob diwrnod. Lliwio fy meddwl gyda phetha’ sy’n fy ngwneud yn hapus er mwyn ei gadw’n bositif, gall hynny fod y peth lleiaf fel cael panad blydi lyfli o Costa.


Fel mwyafrif o betha’ mewn bywyd, tydi anxiety ddim yn syml o gwbwl. Gall pawb fod mewn cyfnod gwahanol ac er mor dywyll gall rhai diwrnoda’ fod, mae’n bosib fod yn hapus a lliwgar eto. Mae dod allan o’r shade tywyll yn cymryd amser ond gyda chymorth mae’n bosib ail liwio eich bywyd.


(ysgrifennwyd y blog yma yn 2018)

388 views0 comments

Recent Posts

See All

ymdopi.

Ma’ pawb yn deud fod bod mewn ‘recovery’ neu ‘remission’ yn beth hawdd, ella diwedd taith. Ond tydi huna ddim yn wir o gwbwl. Ma’ recovery fwy fel taith, taith anodd ond yn yr amgylchedd cywir, mae o’

bottom of page