top of page

HELO

Helo, os yda chi yn darllen hwn, croeso. 

 

Mashwr dachi’n meddwl be yn union ydi hwn. I fod yn onest, dwi ddim yn siwr iawn fy hun ond dwi ‘di penderfyny ail gydio ar sgwennu riw fath o flog. Wbath neshi ddechrau 4 mlynedd yn nol ac yn wedi bod yn meddwl yn ddiweddar y fysa fo yn help i fi a gobeithio eraill i'w ail ddechrau. Dwi bellach yn gweithio fel seicolegydd cynorthwyol yn adran addysg y Cyngor ac yn teimlo mod i wedi dysgu lot o bethau a all fod o help a ddefnydd i bawb. Sgiliau a strategaethau fysa rhywun ella'n dysgu am mewn sesiwn therapi - ond mewn gwirionedd sgiliau bywyd ydi nhw ddim sgiliau therapi yn unig.

​

'Anxiety’, wbath ddigon cyffredin erbyn hyn, ond pan ddechreuais i deimlo felma, oni’n teimlo mor unig a ‘gwahanol’. Yn ddiweddar dwi wedi sylwi fod lot o bobl o fy nghwmpas yn teimlo y run peth, a dwi isho trio helpu nhw. Blog fydd hwn gyda syniada ar sut i leihau pryder, rhannu profiada' a rwla gyda ychydig o wybodaeth seicolegol/gwyddonol ar beth yn union ydi pryder ac yn y blaen.

 

Fel dachi’n gweld, fydd y blog ma yn un hollol chilled a fydd y iaith fwy fel swni’n sgwrsio efo chi yn lle pregethu a sgwennu petha lawr.

 

Diolch am ddarllen a gobeithio fyddai medru helpu rhywun mewn rhyw ffordd, hyd yn oed os ydi hynny jesd wrth wneud i chi wenu neu chwerthin. 

bottom of page