Gan mai blog am anxiety yn bennaf fydd hwn - dwi'n meddwl buasai egluro yn union beth ydi o mewn termau seicolegol yn le grêt i ddechrau. Dwi'n meddwl fod pawb wedi clywed y gair "anxiety" bellach, ella fwy byth ers covid. Ond dwi'n meddwl mai ella 'chydig iawn sy'n gwybod beth yn union ydi o a fwy na dim beth ydi ei bwrpas o. Ia, er mor sgeri a mae huna yn swnio, fel pob emosiwn arall, mae gan anxiety bwrpas - pwrpas sy'n dyddiol nôl i gyfnod y caveman mae'n debyg.
Gor-bryder ydi anxiety yn Gymraeg ac yn syml mae o yn union be mae'r gair yn ddeud - pryderu gormod neu poeni gormod. Pan rydym yn profi anxiety, yn aml mae emosiynau fel ofn, pryder ac ansicrwydd yn dod gydag o. Mae pawb yn profi rhyw lefel o bryder neu ofn yn ystod eu bywyd boed hynny oherwydd prawf neu cyn cyfweliad. Mae'n medru bod yn ddefnyddiol ar gyfer rhoi hwb a cymhelliant i ni ella stydio neu i drio ein gorau. Y foment mae o'n troi yn broblem ac yn orbryder ydi pan mae'r ofn 'na yn cymryd drosodd dy fywyd ac mae'n teimlo fel ei fod o'n gwmwl du uwch dy ben ac mae'n rheoli bob dim.
Nôl at y caveman a sut mae anxiety yn bwysig i helpu ein cadw ni'n saff:
Dychmyga dy fod di'n byw yn ystod cyfnod y caveman (fel Fred Flinstone). Mae goroesi yn golygu gorfod lladd a hela er mwyn cael bwyd i chdi a dy deulu neu mets. Wel nid chdi ydi'r unig un sy'n chwilio am "a bite to eat" adeg yma. Mae 'na greaduriaid mawr sgeri hefyd yn chwilio am the "hottest meat" ar gael ac ella mai chdi ydi'r hot meat yna.
Felly dychmyga - be wti am wneud os wti'n gweld coblyn o anifail mawr yn dod amdanat?
Wel dyma ble mae'r ymateb fight, flight a freeze yn cael ei actifadu. Darn o'r system nerfol yn ein corff sydd yn gofyn i ni ymateb i beth sydd o'n blaenau ni pan rydym yn synhwyro bygythiad. Rhywbeth awtomatig ydi o a does gennym ni ddim rheolaeth drosto. Mae 'na dri pheth alli di wneud:
1. Ti'n teimlo'n ddewr felly ti'n meddwl "ia, ges i frecwast da bore ma "I can take him on," a ti'n cwffio efo'r bwystfil (FIGHT).
2. Ella noson cynt roedd na rhyw flaidd ochr arall y bryn yn udo drw nos felly mond riw ddwy awr o gwsg ti 'di gael felly'n meddwl "hmm na dwim awydd fod yn swpar i hwn" felly'n ei heglu hi ona (FLIGHT).
3. Neu, opsiwn 3, ti'n rhewi a ella'n cuddio (FREEZE).
Ella alli di feddwl am adeg pan mae o'n teimlo fel bod dy gorff di wedi dweud i chdi wneud un o'r tri pheth yma mewn sefyllfa ble ti wedi synhwyro neu feddwl fod yn fygythiad.
Pan mae'r system yma yn cael ei actifadu fel arfer rydym yn profi symptomau corfforol megis:
Crynu.
Ysfa i redeg i ffwrdd.
Crio.
Teimlo'n ofnus ac ansicr.
Anadl yn rwystredig.
Calon yn curo'n gyflym.
Llygaid yn mynd yn fawr.
Chwysu.
Poen yn bol.
Meddwl yn rasio neu meddwl yn hollol blanc.
Dyma fideo sydd yn egluro yr ymateb fight, flight a freeze mewn 'chydig mwy o fanylder:
Felly be ydi ei bwrpas o heddiw? Wel gan fod hwn eisioed yn rhan ohonom mae o yna mewn ffordd i gadw ni'n saff os rydym mewn perygl neu yn meddwl ein bod mewn perygl. Y drwg ydi fod y system yma yn ddibynol ar beth da ni yn ei ddysgu fo i ymateb i a sut i ymateb.
Nai ddefnyddio sefyllfa gymdeithasol newydd fel enghraifft:
Ti mewn tref newydd a ffansi panad, felly'n meddwl mynd i gaffi newydd lle ti ddim yn nabod neb a ddim yn gwybod dim am be di'r drefn wrth archebu diod na dim.
Ti'n dechrau teimlo dy galon yn curo ac mae dy fol yn dechra troi - ti dechra teimlo'n anxious.
Ti'n dechra cael meddylia pryderus ac mae'r teimlad yn cymryd drosodd dy gorff ac felly ti'n osgoi mynd i'r caffi ac yn mynd adref. Ti'n teimlo'n well.
Wrth osgoi'r sefyllfa yma ti'n deud i dy feddwl a'r system nerfol fod sefyllfaoedd cymdeithasol newydd fel mynd i gaffi newydd yn fygythiad ac mai osogi nhw ydi'r peth gorau i wneud i gadw dy hun yn saff. Wedyn ella tro nesa fydd yr anxiety wedi tyfu hyd yn oed mwy gan dy fod fi wedi dweud wrth dy hun o'r blaen fod caffi newydd yn fygythiad ac wedi gwneud dy hun deimlo'n well wrth osgoi mynd yno.
Felly beth mae hyn yn gychwyn ydi beth mae nhw'n alw yn "Cycle of Avoidance". Yn y diagram isod mae'n dangos beth ydi'r cylch yma a sylwch sut tydi o ddim yn darfod - mae o dal i fynd rownd. Mae hyn yn cynrychioli mewn ffordd sut mae pryder yn parhau a chryfhau pan does dim byd yn cael ei herio.
Os fysa ti eisiau herio'r pryder am fynd i gaffi newydd buasai angen ceisio newid y saeth gwyrdd sef y ffordd ti'n ymateb i'r teimladau o bryder.
Yn hytrach â osgoi - gwneud rhywbeth arall. Herio'r teimladau a meddyliau pryderus, anwybyddu'r pryder a mynd i fewn sut bynnag neu defnyddio technegau ymdopi gwahanol i helpu chdi ymdopi efo'r teimladau anghyfforddus.
HER - fel pob sgil newydd mae angen ymarfer er mwyn meistroli. I fi, mae dod adnabod pryd mae pryder yn dechrau cymryd drosodd dy gorff yn sgil a mae o'n cymryd amser i fod yn feddylgar o sut mae dy gorff yn teimlo er mwyn medru penderfynu beth i wneud yn hytrach na phanicio neu dianc. Wythnos yma dwi eisiau i ti drio fod yn feddylgar o pan ti'n teimlo dy gorff yn dweud i chdi fod chdi'n teimlo'n bryderus.
MEDDYLIA - Ydi hyn yn rhywbeth sydd yn digwydd yn aml mewn sefyllfaeodd tebyg? Sut mae hyn yn teimlo yn dy gorff, beth ydi'r arwyddion? Oes na rywbeth alli di wneud i herio'r teimlad yma fel fod o'n brofiad gwahanol tro nesaf? Neu ella tria gosod dy brofiad i fewn i'r cylch osgoi a meddwl am ffyrdd ti efallai wedi herio'r saeth gwyrdd o'r blaen neu beth alli di drio tro nesaf.
Yn y blog nesaf fe fyddai'n sôn ychydig mwy am y cylch yma a sut allwn ni herio'r saeth wyrdd a beth allwn ni wneud yn lle osgoi er mwyn ceisio torri'r cylch. Rhywbeth sydd yn haws dweud nag gwneud i ddechrau ond gyda lot o ymarfer a herio eich hun mae o'n hollol bosib.
Commentaires