top of page
Search
  • pethmeddaldi'rmeddwl

beth ydi anxiety? - rhan 2

Fel nes i sôn yn y blog diwethaf, mae profi teimladau o anxiety yn gyffredin iawn a rhywbeth sydd yn rhan o fywydau lot ohonom efallai oherwydd materion personol neu oherwydd beth sy’n mynd ymlaen yn y byd mawr o’n cwmpas. Y drwg ydi fod teimladau o anxiety - sydd yn hollol naturiol yn medru troi fewn i rywbeth mawr sydd yn rheoli pob dim - anxiety disorder.


Pan dwi’n gweithio efo plant a phobl ifanc sy’n cael cyfnodau o deimlo’n anxious fyddai’n defnyddio llyfr sy’n eu hannog i feddwl am anxiety fel Gremlin. Rhywbeth sy’n gweithio’n grêt ydi gofyn iddyn nhw feddwl am gymeriad a gwneud llun neu fodel Lego o beth mae nhw’n meddwl mae anxiety nhw yn edrych fel a rhoi enw iddo. Weithiau mae cael cynrychiolaeth weledol solid o dy flaen yn medru gwneud hi’n haws na thrio dychmygu rhywbeth sydd yn dy feddwl. Wedyn yr enw yna fydda ni yn defnyddio wrth sgwrsio am yr anxiety.


Nawn ni alw hwn yn Joni Bach.


Pan mae rhywbeth yn gwneud i chdi deimlo’n bryderus (TRIGGER) fydd Joni bach ar lwgu. Pan ti’n bwydo Joni bach efo’r holl feddyliau pryderus ‘ma, mae o wrth ei fodd gan fod o’n cael gwledd a be fydd o’n tueddu i wneud ydi chwilio am fwy (MEDDYLIA). Y drwg ydi fydd Joni bach yn cofio pryd mae o’n cael ei fwydo - os ti’n cofio o'r blog dwytha - mae ymateb fight flight freeze a’r cycle of avoidance yn helpu i’r meddwl gofio pryd nes di ymateb i sefyllfa drwy ei osgoi. Felly mae’n debyg fydd Joni bach yn edrych 'mlaen am wledd bob tro ti’n meddwl am fynd fewn i gaffi newydd a chychwyn panicio (YMATEB).


Felly, beth sydd angen i wneud ydi llwgu’r sglyfath. Dysgu Joni fod o ddim yn mynd i gael bwyd bob munud a bod o ddim yn boss ar dy feddwl di ac mai chdi di’r big bad boss.

Y darn anoddaf o hyn ydi i sylwi pryd ma Joni bach yn dechrau gwirioni gan fod o’n meddwl fod o am gael tamed i fwyta. Adnabod yr arwyddion na mae’r corff yn ei yrru i chdi i ddeud dy fod di’n dechra' teimlo’n bryderus.


Mae Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT) yn defnyddio model sy’n edrych yn debyg i hot cross bun i egluro'r berthynas rhwng bob dim sydd i wneud efo’n hymateb i sefyllfa bryderus, neu unrhyw sefyllfa dweud y gwir.



Fel y gwelwch, mae’n egluro mewn ffordd sut mae pob dim wedi’i gysylltu a sut mae un peth yn effeithio’r llall. Mae o hefyd yn dangos pa mor bwerus ydi ein meddylia ni a pha mor bwysig ydi herio’r meddylia negyddol annefnyddiol er mwyn newid y ffordd rydym yn teimlo ac ymddwyn.

Y peth grêt am ddefnyddio'r model wrth ail edrych ar sefyllfa ydi fod o’n medru helpu chi i sylwi ar beth ydi’r “triggers” pan fyddi di’n teimlo’n anxious neu beth ydi’r arwyddion mae’r corff yn gyrru i chdi. Ella fydd di yn dechra teimlo dy galon yn powndian a dy ddwylo yn chwysu a teimlo fel meerkat braidd yn edrych o gwmpas a ddim yn siŵr lle ti’n mynd.


Y tric ydi i sylwi ar yr arwyddion yma a labelu sut ti’n teimlo a dweud o allan neu i chdi dy hun – “Oce dwi’n dechrau teimlo’n bryderus, allai teimlo nghalon yn powndian yn ddiawledig a ma nwylo i’n socian.” Cam nesaf fysa gofyn - “Ydi sut dwi’n teimlo’n addas i’r sefyllfa?” Be dwi’n feddwl ydi - check the facts. Ydi o’n addas i deimlo’n bryderus oherwydd sefyllfa newydd fel mynd i gaffi? Yndi i ryw raddau ond tydi o ddim yn addas na defnyddiol i osgoi’r sefyllfa os mai paned ydi beth ti isho. Y gwir ydi - pe bai caffis yn rhywle sy’n codi pryder ar bawb fysa na ddim caffis na sa? Mae o i gyd i wneud efo persbectif personol a beth ti wedi dysgu dy feddwl i feddwl am wrth fynd i gaffi. Yndi mae hyn yn symleiddio fo dipyn ond gwraidd pryder ydi cylched o feddyliau negyddol sydd mor ddwfn a sefydlog yn ein meddyliau gan fod neb wedi’u herio. Mae Joni bach yn gyfforddus a dio ddim eisiau cael ei lwgu.


Y darn anodd o hyn sydd yn hynod o bwysig i wneud ydi herio’r meddyliau yma er mwyn newid y patrwm o osgoi sefyllfa er mwyn osgoi teimladau annifyr. Yr harsh reality mewn ffordd ydi mai dim ond chdi dy hun all newid y ffordd ti’n meddwl. Wrth gwrs alli di gael cymorth gan eraill i helpu chdi wneud hyn, boed hynny drwy ofyn i ffrind os ydi be ti’n feddwl yn ffaith neu beidio neu gael persbectif rhywun arall o sefyllfa. Ond y gwir ydi, chdi sydd yn gorfod gwneud y gwaith caled.


HER - Darn anodd o dorri’r cylch o osgoi ydi MYND A GWNEUD beth bynnag sy’n achosi'r teimladau pryderus yna. Dwi wrth fy modd yn astudio’r ymennydd a ffaith ddiddorol i chi - mae’r ymennydd yn BLASTIG. Be dwi’n feddwl ydi fod hi’n bosib newid y ffordd mae’r ymennydd wedi ei drefnu i feddwl am bethau. Dyna mewn ffordd ydi ystyr enw y blog - mae'r meddwl yn feddal a alli di newid o.

Os ti’n tueddu i deimlo’n bryderus am wneud rhywbeth fel ffonio rhywun, mynd i gaffi newydd neu fynd allan efo ffrindiau - dwi eisiau i ti drio herio dy hun a MYND. Mae’n bosib eistedd gyda’r teimladau anghyfforddus yma efallai gyda ffrind neu berthynas agos a herio nhw drwy ddweud wrth dy hun fod chdi’n saff a dydi’r teimladau yma ddim am fod yna am byth - “this too shall pass”. Ella i ddechrau byddi di eisiau torri hyn i lawr i gamau llai ella os fysa ni'n meddwl am fynd i gaffi newydd - cael ffrind i fynd fewn i nôl paned a dy fod di yn gwitiad tu allan wrth y drws. Tro wedyn fod chdi yn mynd fewn hefyd ond fod dy ffrind yn ordero dros y ddau ohonoch chi ayyb. Gall camau bach fel ma wneud gwahaniaeth mawr yn y pendraw ac mae teimlo buddugoliaeth fach o herio’r meddyliau ma yn teimlo yn blydi grêt coeliwch fi.



Dyma dau lyfr grêt i ddefnyddio gyda phlant a phobl ifanc i ddysgu am beth ydi anxiety a sut i herio’r teimladau o bryder:


Starving the Anxiety Gremlin: A Cognitive Behavioural Therapy Workbook on Anxiety Management for Young People - Kate Collins-Donnelly


Starving the Anxiety Gremlin for Children Aged 5-9: A Cognitive Behavioural Therapy Workbook on Anxiety Management – Kate Collins-Donnelly

59 views0 comments

Recent Posts

See All

fifty shades o anxiety.

**cynnwys ’chydig o iaith gref** Cyn i chi ddechra’ meddwl, na dydi y blog yma ddim yn cynnwys sequal i straeon Mr Grey. Pan dwi’n deud fifty shades o anxiety dwi’n ei feddwl o bach fwy llythrennol. D

ymdopi.

Ma’ pawb yn deud fod bod mewn ‘recovery’ neu ‘remission’ yn beth hawdd, ella diwedd taith. Ond tydi huna ddim yn wir o gwbwl. Ma’ recovery fwy fel taith, taith anodd ond yn yr amgylchedd cywir, mae o’

bottom of page