top of page
Search
pethmeddaldi'rmeddwl

ymdopi.

Updated: Jan 20, 2022

Ma’ pawb yn deud fod bod mewn ‘recovery’ neu ‘remission’ yn beth hawdd, ella diwedd taith. Ond tydi huna ddim yn wir o gwbwl. Ma’ recovery fwy fel taith, taith anodd ond yn yr amgylchedd cywir, mae o’n beth hollol realistic.


Gwahanol ella sa rhai yn ddeud, ond genai enwa’ gwahanol i fy moods:

Mellow Mandy, Negative Nansi, Positive Penny ac mae ‘na frwydr cyson rhwng y tri. Mwyafrif o’r amser mae Mellow Mandy yn champion a ddigon sefydlog yn fy meddwl, ond dydi o ddim yn cymryd llawer i Negative Nansi gymryd drosodd. Dwi’n meddwl fod hyn yn dangos sut beth ydi recovery neu ymdopi – mixed moods a reit ddryslyd a shit.


Help - wbath fushi yn chwilio am flynyddoedd amdan mashwr. Mae o’n ofnadwy sut mae salwch yn gorfod bod yn rhywbeth ‘da chi’n medru ei weld i bobl cymryd chi o ddifri. OND bellach, ar ôl trial and error, dwi wedi ffeindio llawer o ffyrdd i gadw Mellow Mandy yn brif breswylwr fy meddwl, a gobeithio fydd rhai o fy nhricia’ yn help i eraill sy’n cael cyfnoda’ shitty fel fi:


1. ANADLU – ia dwi’n gwbo, hollol cliché ond mae o’n blydi gweithio. Mae o’n helpu dod a chi nol i fod yn cool calm and collected ar ôl cael panic ac mae o hefyd yn distraction reit dda os dachi yn ei chanol hi. Os dachi'n meddwl amdano mewn ffordd scientific - mae anadlu yn helpu'r system nerfol ddod nol i niwtral mewn ffordd a helpu calmio lawr yr ymateb fight / flight / freeze sydd yn cael ei acdifadu pan mae rhywun yn teimlo threat. Hyn sydd yn digwydd pan ti'n teimlo yn anxious.


2. YOGA – eto reit cliché sori ond di rhywbeth ddim yn cliché am ddim rheswm nadi. Ers dechra’ yoga dwi’n teimlo fel person gwahanol, er mor cringe mae o’n medru bod ar adega’. Mae o wedi fy helpu i fod fwy ymwybodol o fy hun ac fy nghorff, ac i fod lot fwy…. Zen.


3. CHWERTHIN – a lot ohona fo. Ma watiad ffilm neu raglen teledu sy’n g’neud i chi chwerthin nes ‘da chi’n brifo yn ffordd dda ofnadwy o anghofio am y meddylia’ negatif. Wbath fatha Stepbrothers neu Bridesmaids neu Gavin and Stacey ydi go to fi.


4. RHEDEG/YMARFER CORFF – er mor afiach ydi rhedeg weithia’, dwi’n gweld o’n ffordd dda o mynegi emosiyna’ heb orfod dweud dim. Rwla ganol natur ‘di’r gora’, rwla tawel fel ar hyd lan y mor, ble yr unig swn ‘da chi’n medru clywed ydi y tona’. Eto y darn sciency o ymarfer corff a phryder ydi fod o'n gollwng hormonau hapus (endorffins). Weithia ma jesd mynd allan am awyr iach efo ffrind neu ella mynd a ci am dro yn medru gwneud byd o les i rhywun.


5. DANCE LIKE NO ONE IS WATCHING - yn union huna hefyd. Eto mae symud y corff yn gwneud byd o les i'n meddwl ni a gora oll cael hwyl wrth wneud hynny hefyd. Canu, sgrechian canu a dawnsio yn wirion, ella hyd yn oed mynd i ddosbarth Zumba neu gwneud workout dawnsio HIIT oddi ar Youtube - by the way mae na rhai One Direction a Mamma Mia ar gael - amazing.


6. TACLUSRWYDD – “a clean room is a clean mind”. Dwi’n shwr dwi ‘di clwad rhywun yn deud hun. Ond dyma ydi motto diweddara’ fi, ac mae o hyd yn hyn yn gweithio reit dda. Er gymaint o hassle ydi clirio y twlc dwi’n ei alw’n ‘stafell wely, mae gweld carped weithia’ yn neud i fi feddwl lot fwy clir.


7. FFRINDIA – mae cael moral support gen ffrindia’ yn hynod o bwysig, “a problem shared is a problem halved” mae nhw’n ddeud… ia? ac mae hun yn hollol wir. Weithia’ yr oll mae rhywun angen ydi i gael rant, ac ella gall ffrind roi perspectif newydd i chi o’r broblem.


Hein mewn ffordd ydi fy "Calm Down Kit" ac mae nhw’n gret am ddod a fi lawr nol yn calm neu i stopio’r anxiety attack ddechra’. Mae gen bawb ffyrdd bach eu hunain o gadw’n calm, y darn anodda’ ydi ffeindio nhw. Triwch rhai o rhain ac os ydi nhw yn gweithio i chi, gret, ond os ddim – cofiwch fod pawb yn wahanol ac ella bod angen i chi drio rei petha’ er mwyn ffindio be sy’n siwtio chi.



(ysgrifennwyd y blog yma yn 2018)

165 views1 comment

Recent Posts

See All

fifty shades o anxiety.

**cynnwys ’chydig o iaith gref** Cyn i chi ddechra’ meddwl, na dydi y blog yma ddim yn cynnwys sequal i straeon Mr Grey. Pan dwi’n deud...

Comments


bottom of page