top of page
Search
pethmeddaldi'rmeddwl

cost.

Updated: Jan 19, 2022

Yndi mae o’n swnio yn rhyfadd, a fwya' dwi’n sbio arna fo 'dio ddim yn neud sens. Cost Anxiety. Be dwi’n feddwl ydi mewn ffordd ydi be ma anxiety yn gostio i fi. Neu ella fwy syml, be dwi ‘di golli oherwydd yr anxiety neu be mae o wedi ei ddwyn gena i.


I fi yn bersonnol ma’r anxiety wedi costio lot, neu wedi effeithio ar fy mywyd i mwy na neshi ella erioed sylwi o’r blaen. Pan dwi meddwl nol dros y blynyddoedd hydnoed i pan oni yn ysgol gynradd odd yr anxiety ma yna, yn gysgod. Mae o 'di bod yna erioed, ond nes i fi gyrraedd “rock bottom” a phobl arall yn dechra' sylwi, nath o erioed fod yn fwy na dim ond yr “ofn” ma, o bob dim. Dim jesd ofn fel ofn fod hi am fwrw glaw pan tidi fake tanio dy goesa’n barod i wisgo sgert newydd, neu ofn fod dy hoff dîm am golli mewn gêm. Ofn sy'n cymryd drosodd pob rhan o dy gorff. Mae o’n cymryd drosodd dy gorff, y ffordd ti’n anadlu, BOB DIM.


Un atgof sy’n gry’ yn fy meddwl ers ysgol uwchradd ydi cerdded rhyd y coridors yn nol a ‘mlaen, yn gwasgu fy ffeil tecstiliau yn dynn nes ‘odd hoel ochr y ffeil wedi ymblannu'n goch yn fy llawr, do’ ni ddim yn bwriadu mynd i nunlla. Jysd cerdded nol a ‘mlaen nol a mlaen a methu anadlu'n iawn a'n llygaid yn fawr fel gwdihw. Nath huna ddigwydd reit aml am chydig fisoedd. Mae o’n dal i ddigwydd heddiw. Dwi’n cofio dreifio i Fangor i fynd i ddarlith, erbyn cyrraedd y maes parcio a thalu, geshi riw banic allan o nunlla a mynd syth nol fewn i’r car a dreifio nol adra.

Fysa'r rhestr o betha dwi ‘di methu neud (neu heb neud) oherwydd yr anxiety yn filltiroedd o hir a phob un yn wahanol arwahan i wraidd yr ofn, be fysa pawb yn feddwl ohona fi. Petha' bach fel ordro bwyd mewn caffi neu mynd i till i dalu am bacad o sweets. Hydnod heddiw ma petha bach felna yn medru fod yn sialens os dwi’n cal dwrnod drwg. Yn ddiweddar oni angan upgreidio fy ffôn, ac yn ol pawb ‘oni ‘di holi am sut i fynd o gwmpas hyn, y ffor’ ora’ i ‘neud ‘odd dros ffôn. Wel, ‘dwi ‘rioed ‘di licio siarad ar ffôn cofn i fi ddeud wbath gwirion neu fod fy llais yn swnio yn rhyfadd. Neshi ffonio EE tua 4 gwaith ac unwaith oedd rhywun yn atab, rhoi ffôn i lawr. MIS. Mis ‘nath o gymryd i fi ordro ffôn newydd, mis o mywyd o boeni am ffonio rhywun gai ddim yn nol, ac ar ben hynny, am mod i wedi mynd i deimlo mor annifyr yn siarad ar ffon a trio sortio contract rhatach (£40 yn lle £48), nes i dalu £150 am ffôn! Felly mewn ffor, ma hona yn enghraifft lythrennol o sut mae’r anxiety wedi costio.


Fel dwi’n mynd yn hŷn mae’r petha mae o wedi gostio i fi yn mynd fwy anodd i ddygymod efo, perthnasa’, gwylia’, ffrindia’. Mae o dal yn fy mhryderu be fydd pobl newydd dwi’n gyfarfod yn meddwl ohona i a sut dwi fod i egluro i nhw fod gen i anxiety a ella fyddai yn hapus un diwrnod efo nhw ond diwrnod arall fyddai ddim isho gweld nhw na neb. Dwi’n siwr fod pawb yn cal adega o fod ofn be ma pawb arall yn feddwl ohona chi, ond ma’ hyn yn nghefn fy meddwl i bob diwrnod. Weithia dwi ddigon cry a medru deud - NA NOT TODAY! Ond dyddia’ arall, mae o’n fy nhrechu, a allaim gadal y tŷ.


Mae’n anodd byw efo anxiety a gweld sut fydd pob diwrnod mor wahanol dibynnu ar sut dwi’n teimlo’n bora. Mae o fel byw efo rhywun tu fewn i dy feddwl sy’n penderfyny sut mood fyddi di mewn. Gall y peth lleiaf fel deffro oherwydd breuddwyd drwg neu annifyr rhoi dechra’ drwg i’r diwrnod a wedyn fydd fy anxiety yn fy nhrechu a fyddai ddim isho gadal fy ngwely na ‘neud dim. Rhai diwrnodia arall fyddai’n iawn yn y bora ond erbyn y p’nawn fyddai’n teimlo’n nerfys i gyd a teimlo’n anghyfforddus yn fy hun a isho dod adra i ngwely. Fy ngwely ‘di lle dwi’n deimlo fwya’ saff mashwr.


Yn anffodus does ‘na ddim byd allai ‘wneud i gal gwarad ar y teimlada’ yma yn gyfan gwbwl, ond mae’n bosib lleihau y pryder neu ‘paratoi’ mewn ffordd at y teimlada’ cyn iddyn nhw gyradd. Petha’ bach fel ‘gneud yn siwr mod i’n siarad efo rhywun os dwi’n dechra teimlo yn bryderus neu hydnod mynd allan am awyr iach a gwrando ar chydig o miwsig. Hefyd gwthio eich hun. Pan neshi ffonio pobol EE a chael ffôn, ella peth bach i rai ond roedd hi’n fuddigoliaeth i fi achos nes i allu siarad gyda rhywun ar y ffôn. Gwthio eich hun i fynd i’r llefydd sydd yn eich ‘poeni’, mynd a os ydi y teimlada’ dal yna, mynd adra. Oleia’ ‘da chi wedi trio.


Peth arall dwi’n ‘neud ydi cadw diary “pryderon”. Os dwi’n cael y teimlada’ ‘ma, dwi’n ‘sgwennu nhw lawr a wedyn mynd yn nol ata fo yn bora neu y diwrnod wedyn a darllen be nes i ‘sgwennu. 90% o’r amser dwi’n chwerthin neu mae gen i gywilydd mod i ‘di teimlo fel ‘na a finna yn teimlo yn hollol iawn diwrnod wedyn. Dwi’n meddwl fod o’n ffordd dda o resymoli fy meddylia’ a gwybod be i ‘neud os ydi o yn digwydd eto. Hefyd ‘sgwennu lawr buddugiolaethau bach. Petha’ fel mynd i darlithoedd neu mynd i barti neu rhywle. Mae sbio nol ar rhain yn medru rhoid perspective positif i chi os ‘yda chi’n cael diwrnod shit.




(ysgrifennwyd y blog yma yn 2018)

242 views0 comments

Recent Posts

See All

fifty shades o anxiety.

**cynnwys ’chydig o iaith gref** Cyn i chi ddechra’ meddwl, na dydi y blog yma ddim yn cynnwys sequal i straeon Mr Grey. Pan dwi’n deud...

Comments


bottom of page